Dewisiadau  

Eleri Rhiannon Darkins
Telynores

 

 

 

Elri Darkins

Mae gan Eleri ddiddordeb yn y delyn deires, yn enwedig canu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Gwneuthpwyd ei thelyn deires (Gwalia) gan John Weston Thomas. Clywid hi ar y delyn deires yn agoriad y Cynulliad yng Nghaerdydd ym Mai, 1999 yn perfformio gyda Elinor Bennett, Meinir Heulyn a Katherine Thomas. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno aeth Eleri draw i Galiffornia i lansio CD ‘Yn Iaith y Nefoedd’ a chynnal cyfres o gyngherddau â’r delyn deires.

 

 

Eleri Darkins

Ganed Eleri yn Nhredegar, a dechreuodd ganu’r delyn pan yn naw oed. Enillodd Wobr Goffa John Weston Thomas, Ysgoloriaeth Nansi Richards, Ysgoloriaeth Alwena Roberts a sawl gwobr yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol.

Graddiodd ym 1996 o Brifysgol Cymru, Bangor gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cerddoriaeth, lle astudiodd gydag Elinor Bennett. Enillodd Wobr Goffa Eric Morris am y datganiad terfynol gorau. Tra ym Mangor, dewiswyd hi fel unawdydd concerto ym 1995 a chafodd ei ARCM.

Mae Eleri wedi canu’r delyn gyda cherddorfeydd ar hyd a lled Prydain, ac wedi teithio i Ffrainc, yr Almaen, Groeg a’r Unol Daleithiau. Fel cyn-aelod o gerddorfeydd ieuenctid Prydain a Chymru, gweithiodd gydag arweinwyr enwog megis Mathias Bamert, Elgar Howarth a Christopher Adey. Yn ddiweddar, perfformiodd Eleri gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC (Cymru) o dan arweiniad Richard Hickox a Cherddorfa Symffoni Lloegr (ESO) o dan arweiniad William Boughton.

Ymddangosodd Eleri ar nifer o raglenni teledu megis ‘Cam Ymlaen’ ac ‘O Flaen dy Lygaid’ yn ogystal â sawl recordiad.

 

 

     

Adolygiadau am Eleri Darkins:

‘...a delightful concert with a great performance on the harp.’

Lady Worsley, LMN Committee Member,

Malton Methodist Church - Ryedale Festival.

‘Her end recital was wonderful - the programme was most challenging and performed with great conviction and style.’

Sioned Williams (Principal Harpist, BBCSO &

Director of Harp Studies at Trinity College of Music, London)

 

 

‘You play superbly and it’s a pleasure to have you perform with us.’

Michael Bell (conductor CPO)

‘Diolch yn fawr iawn Eleri am noswaith bendigedig!’

Cynthia & John (Cymdeithas Gymraeg Chelmsford, 21/05/01)