Dewisiadau  

Eleri Rhiannon Darkins
Telynores

2 Rhagfyr 2002

Rwyf wedi bod mor brysur yn dysgu a perfformio, mae'r amser wedi hedfan. Rwy'n mynd i Chiang Mai wythnos nesaf (9 - 13eg Rhagfyr) cyn dychwelyd i Bangkok ar gyfer fy nghyngerdd olaf ar yr 21ain. Rwyf wedi cael cynnig i chwarae 'da'r Bangkok Symphony Orchestra ym mis Ebrill, felly bydd hynny'n grêt. Mae dal yn boeth fan hyn (tua 32'C) ond mae'r bobl leol yn dweud wrthai mai hyn yw'r tymor 'cwl'. Dwi ddim yn edrych 'mlaen i fod yn y tymor 'poeth'!

xx Eleri xx

 

16 Tachwedd 2002.

Sawasdee kha! o Bangkok

Rwy'n cael amser ffantastig yma yn Bangkok. Mor brysur bob dydd, heb gael amser i weld dim 'sights' eto!

Wedi chwarae yn y Llysgenhadaeth Prydeinig ac yfory (Sul) cyngerdd yn Chintakam am 11y bore!

Wnai Sgrifennu eto fi mewn internet cafe sy'n cau ymhen ychydig am 10pm. Ond allwch chi pasio'n nymuniadau gorau mlaen i'r côr?

Fi'n trio addysgu'r Dywysoges am alawon Cymreig ac mae'n gofyn i fi ganu a chwarae'r delyn ar yr un pryd (allai ddim!) felly wnai trio dweud wrthi mai côr sydd angen i wneud daioni a'r caneuon!

Hwyl am y tro! (ddim yn siwr pryd mae'r CD yn mynd i fod yn barod, heb siarad a'n rhieni ers wythnos!)

Cofion gorau, Elerix

 

 


Teml Emerald Buddha, Bangkok